Clwb Llanllawen Banner click to go to home page.
Home
Contact Us
Events
A day in the life of...
Deialogundiwrnod
A Postcard From...
Who I am...
Past Events
Members Stories
Test Page
News and Events
Awards Photos
Gallery
Garden Party
Join Us
About Us
Press Clippings
Downloads
Links
Learners Resources
Clwb Items for Sale
Walks
Llanllawen Trip
Betws
Behind the Photo
Interview
Soundbites from the course
Snippets
A bit of News
Russels Letter
Strange but True

A Post Card from/Cerdyn Post o…

 

Members Post Cards from places as far apart as Corwen and Casablanca.

Cardiau post ein aelodau sy’n crwydro’r byd….o Gorwen i Gasablanca!

 

 

Cerdyn post gan Jane....yn Madrid

(Feb 2010)

 

 

Annwyl Bawb,

Dan ni’n cael amser da yma yn Madrid. Dan ni wedi mynd o gwmpas y ddinas ar fws twristiaid heddiw. Yfory dan ni’n mynd i gêm bêl droed. Dan ni’n cael tapas a gwin coch heno! Mae’r tywydd yn oer ond yn sych. Hwyl am y tro.

 

Jane, Richard, Rhys a Bethan

Cerdyn post gan Marilyn.... yn Cuba

Jan2010

 

Helo o Cuba! Roedd hi’n rhewi pan wnaethon ni adael Manceinion ar fore Gwener ond ar ôl hediad am ddeg awr wnaethon ni gyrraedd Cuba yn yr heulwen. (Diolch i’r drefn!) Mae’r gwesty yn ardderchog ac mae’r gerddi yn hyfryd. Mae ‘na lawer o adar hard yma. Mae’r bobl leol yn dlawd iawn ond maen nhw’n gyfeillgar. Maen nhw’n byw mewn cabanau pren.

Ar ddydd Iau, aethon ni ar gatamaran i ynys fach o’r enw Cayo Saeito. Roedd ‘na lawer o draethau bach a’r tywod yn wyn. Wela i chi wythnos nesa.

 

Cofion cynnes,

Marilyn

Cerdyn post gan Dona... Yn Vietnam

(DEc2009)

 

 

Ho Chi Min  - Vietnam Annwyl bawb,

Dan ni bellach wedi cyrraedd Ho Chi Min – lle neis iawn ond dim erioed wedi gweld gymaint o fotobeics yn fy mywyd! Wedi bod mewn amgueddfa rhyfel heddiw yn cael rhywfaint o ddiwylliant! Wedi bod yn teithio dipyn ar fysus a threnau dros nos i arbed teithio yn ystod y dydd. Roedd y cruise i Halang Bay o Hanoi yn fendigedig – cysgu ar gwch am un noson a mewn rhyw “open hut” ar ynys am yr ail noson – bendigedig! Symud ymlaen i Cambodia – ddim yn siwr be i ddisgwyl o fanno. Yn mwynhau pob eiliad! Gobeithio bod popeth yn iawn yn Llysfasi!

 

Cofion, Dona XX

Cerdyn post gan Elaine....yn Seland Newydd.

(Nov2009)

Helo Bawb,

Wel, dyma ni! Mae tŷ Tegid rhywle o dan y coed ar y chwith o’r llun, ac ar y funud, dan ni’n eistedd wrth y môr yn yfed coffi a byta peis yn yr haul ar y dde o’r llun.

Roedd ysgol Rhys a Nia wedi ennill gwobr bwysig am “ecology”, felly aeth Daf a fi i’r ysgol ddoe i’r cyfarfod. Roedd pawb yn gyfeillgar iawn ac roedd y plant yn canu Haka o Groeso. Roedd o’n rhyfedd i weld ein ŵyr yn gwisgo dillad Maori.

Hwyl, Elaine

Cerdyn post gan Irene..... ar fordaith.

July(2009)

Annwyl bawb,

Dyma fi yn ymlacio efo llyfr “Llanllawen” ar y llong “ The Independence of the Seas”, ar ôl teithio i Ynys Madeira, ym Môr yr Iwerydd, a rwan hwylio am Tenerife, Lanzarote a Vigo (Sbaen). Diwrnod diddorol iawn.

Cofion cynnes,

Irene

Cerdyn post gan Sandra….yn Tuscanny.

(Sept 2009)

 

 

Annwyl Bawb,

Dw i mewn fila yn y mynyddoedd yn Tuscanny. Mae’r olygfa yn rhyfeddol. Mae’n boeth a dan ni’n nofio yn y pwll bob dydd. Mi aethon ni i Lucca dydd Sul, lle roedd ‘na farchnad hynafol yn y strydoedd. Mae Lucca yn ddinas ganoloesol. Mae ‘na furiau o’i chwmpas. Dw i’n hoff iawn o’r pasta a hufen iâ. Rhaid i mi fynd ar ddeiet pan dw i’n dod yn ôl.

 Wela i chi cyn hir,

Sandra

 

Cerdyn post gan Megan…. . yn Wiltshire

(Aug 2009)

 

Annwyl Myfi a phawb,

Ar ôl bod yn dafarn yn Llanfair DC, dyma lun o geffyl gwyn arall. Wedi ei gloddio allan o galch.

Dw i’n aros yn yr ardal ‘ma efo fy nghyfnither a chael andros o hwyl!

 Cofion cynnes, Megan

 

Cerdyn post gan Jean….yn Hong Kong.

(June2009)

 

 Annwyl Myfi, 

Dan ni’n mwynhau ein hunain yn fawr iawn. Hwyl o gwmpas yn Hong Kong wythnos ‘ma.

 Dyma’r Buddha ucha yn y byd.

 

Cariad,

 Jean

Cerdyn post gan Lindy a Gaynor ……yn Nhwrci

(June2009)

 

Annwyl bawb,

Cyfarchion o Dwrci! Wedi cyrraedd yn saff nos Iau ar ôl taith o 2 awr. ‘Sdim ots, dan ni’n mwynhau ein hunain yn fawr iawn yn barod……

Dan ni’n eistedd ar ein gwelyau haul yng nghysgod hen goeden, wrth y pwll nofio.

 Mae’r tywydd yn boeth ac mae’r awyr yn las uwch ein pennau,

Mae gynnon ni lyfrau da mewn un llaw a cocktail yn y llall. Dyma’r bywyd. Rhaid i ni fynd i’r “swim up bar” mewn munud am gocktail arall.

 Gobeithio bod pawb yn iawn acw.

 

Cofion cynnes,

Lindy a Gaynor.

XXX

Cerdyn post gan Jean…… yn Macau

(may2009)

 

Annwyl Myfi, 

Dan ni’n mwynhau ein hunain yma yn Macau! 

Cariad, Jean

 

Cerdyn post gan Carol……ym Mharis.

(May2009)

 

Annwyl bawb, Dan ni’n mwynhau ein gwyliau yn fawr iawn yma ym Mharis. Mae’r bobl yma yn siarad Ffrangeg wrth gwrs. Dydy’r tywydd ddim yn boeth, ond dim ots, mae’n sych. Yfory, dan ni’n mynd i Antibes ar y trên cyflym. Dan ni’n gobeithio cael tywydd cynnes. 

Cofion cynnes,  

Carol a’r teulu

 

 

Cerdyn post gan Anne……yn Seland Newydd.

(March2009)

 

Helo Myfi a ffrindiau, Mae’r olygfa a’r tywydd yn hyfryd. Does dim glaw – hyd yn hyn! Roedden ni’n cerdded trwy’r goedwig frodorol wrth y môr, a wedi gweld y Tree Ferns yna. Yn y nôs, wnes i weld rhai adar Kiwi! Maen nhw’n cuddio trwy’r dydd. Does dim llawer o Kiwis rwan, maen nhw’n eu amddiffyn fel y “Red Kite” yng Nghymru. Dw i’n meddwl am Lanllawen!

Hwyl, Anne

 

Cerdyn post gan Anne……yn Singapore.

(March29)

 Annwyl Myfi a’r dosbarth, Dw i’n mwynhau “stop over” yn Singapore ar y ffordd i Seland Newydd. Mae hi’n ddinas fodern a glân iawn, ac mae llawer o goed a blodau yn tyfu ym mhobman. Wnes i fynd i’r Gerddi Fotanical i weld yr Orchids. Roedden nhw’n rhyfeddol. Ac wrth gwrs, wnes i fynd i westy enwog – Raffles – am ddiod o “Gin Sling”.

Cheers! Iechyd da! Hwyl! 

Anne

Cerdyn post gan Sandra…o Dŷ Ddewi, Sir Benfro.

(April2009)

Annwyl Bawb, Dan ni’n aros efo ein merch a wyresau mewn hen fwthyn yn Abereiddy, Sir Benfro. Mae’n oer ar y traeth a dan ni’n clywed y môr trwy’r amser. Mae’r tywydd yn newidiol ond heddiw mae’r haul yn tywynnu.  Ddoe, aethon ni efo’r teulu i Dŷ Ddewi. Dw i’n mwynhau yn fawr yr eglwys gadeiriol yna. Y bore ‘ma wnaeth y plant chwarae ar y traeth a mi es i gerdded efo fy ngŵr ar hyd y clogwyni i Borthgain. Mae o’n brydferth iawn. Rhaid i mi fynd rwan achos dw i’n ffansio hufen iâ ar y traeth.

Wela i chi yn y dosbarth nesa.

Cofion cynnes,

Sandra.

Cerdyn post gan Jan….yn Ffrainc

(Mar2009)

 

Annwyl Myfi a phawb yn y dosbarth Cymraeg yn y Pafiliwn, 

Mae fy merch Anna wedi cael merch fach o’r enw Marion Joy. Mae hi’n wych a hardd. Dydy’r tywydd ddim yn oer.Gobeithio bod pawb yn iawn.

Jan Wallis

 

Cerdyn post gan Jean…..yn Dubai

(Mar2009)

Annwyl Myfi, 

Dan ni’n mwynhau ein hunain eto i ffwrdd ar ein gwyliau. Ddoe, es i o gwmpas Dubai. Heddiw,dan ni’n mynd o gwmpas Abu Dhabi, Al Fujairah a Muscat.

Cariad, Jean

 

Cerdyn post gan Dave a Marilyn…..yn Nhailand

(jan2009)

 

Bore da Myfi a’r dosbarth Cymraeg. Mae’r tywydd ‘ma yn dda iawn. Bob diwrnod mae’n boeth. Mae Marilyn wedi bod yn nofio yn y pwll. Mae Dave yn yfed cwrw!

 

Hwyl fawr, Dave a Marilyn.

Cerdyn post gan Megan… yn San Francisco.

(Nov2008)

Helo Myfi. Cyfarchion o San Francisco! Mae hi’n ddinas anhygoel a dan ni’n cael amser ardderchog!! Dan ni wedi bod i Ynys Alcatraz i weld y carchar, ar gau ers  1963, ac o dan  bont y “Golden Gate” mewn cwch. Roedd ‘na lawer o  forloi swnllyd yn ymlacio ar lan y môr. Mae’r tywydd yn braf iawn hefyd i gerdded o gwmpas. 

Hwyl, Megan a Dave.

Cerdyn post gan Gaynor yn Florida.

(Nov2008)

 

Helo bawb! 

Cyfarchion o Florida. Wel, wnaethon ni gyrraedd neithiwr - wedyn taith hir! Roedden ni wedi blino’n ofnadwy. Ond heddiw dan ni’n mynd i “Seaworld” – gwych!! Mae’r tywydd yn o dda, cynnes iawn. Yfory, dan ni’n mynd i lawr i Busch Gardens ac wedyn, pwy sy’n gw’bod! 

Wela i chi i gyd pan dw i’n dod adre. 

Cofion cynnes oddi wrth Gaynor

Cerdyn  post gan Angie a Colin

(Medi2008)

Annwyl Myfi, Dan ni’n mwynhau ein gwyliau yma. Heddiw dan ni’n mynd i Sissinghurst. Tŷ a gardd vita-sackville West ydy o. Mae’r tywydd hyd yn hyn wedi bod yn garedig. 

Dymuniadau gorau,

Angie a Colin.

Cerdyn  post gan Joy a Geoff .

(medi2008)

 

Dim cweit y gwyliau haf! Wnaethon ni fynd i Ynys Môn dros y penwythnos i redeg ras Marathon (Geoff) a Hanner Marathon (Joy) am y tro cynta yma. Roedd hi’n boeth iawn (O diar!) ac roedd y rasys yn anodd. Dan ni’n stiff iawn y ddau ohonon ni, ond hapus. 

Cofion, 

Joy a Geoff .

 

Cerdyn  post gan Charles a Daphne

(Medi2008)

 

Annwyl Myfi a’r dosbarth Cymraeg yn Llangollen, 

Dan ni’n mwynhau ein hunain yn fawr iawn yma yn Ynysoedd Scilly. Maen nhw’n hardd beth bynnag ydy’r tywydd.Ddoe aethon ni i Tuesco. Mae gerddi Abbay yn hyfryd  fel arfer. Gobeithio bod popeth yn iawn adre a bod pawb yn dod yn ôl yn llawn brwdfrydedd a dan ni’n mynd o nerth i nerth wrth gwrs!

 

Cofion cynnes. 

Oddi wrth Charles a Daphne.

Cerdyn  post gan Sylvia, Lauren a Robyn  o Sir Benfro.

(Aug2008)

A postcard from Pembrokeshire, Caldy Island

Annwyl Myfi,

Dan ni’n mwynhau ein hunain yma yn Sir Benfro. Heddiw dan ni ar Ynys Bŷr. Mae’r tywydd wedi bod yn braf , gwyntog ac yn heulog. Yfory dan ni’n disgwyl glaw. Fyddwn ni’n mynd i Dŷ Ddewi os  ydy’r tywydd yn sych, ar gwch hefyd. Gwely a brecwast bendigedig. 

Wela i di yn yr hydref,

 

Sylvia, Lauren a Robyn

erdyn post gan Jean o Roeg.

(july2008)

Annwyl Myfi,

Dan ni’n mwynhau ein humain. Mae’r tywydd yn boeth. Ddoe es i o gwmpas Sivota. Heddiw dan ni’n mynd o gwmpas yma yn Lefkada. Yfory dan ni’n mynd i Vassilki.

 

Cariad, Jean.

Cerdyn post gan Jean yn Bridlington...
July(2008)

A postcard from Jean in Bridlington

Annwyl Myfi,
Dan ni’n mwynhau ein hunain eto i ffwrdd ar ein gwyliau. Ddoe es i o gwmpas Lincoln. Heddiw dan ni’n mynd o gwmpas Beverley a Bridlington. Yfory dan ni’n mynd i Chatsworth House.
Dydy’r tywydd ddim yn boeth ond mae’n sych.

Cariad,
Jean X

A Postcard from Gaynor in Turkey...

June(2008)

A postcard from Gaynor in Turkey

Annwyl bawb – helo o Dwrci!

Wel, dyma ni wrth y pwll nofio ac yn cael “Pina coladas” a “White Russians”. Dyma’r bywyd! Mae’r tywydd yn boeth iawn, iawn, ond mae ‘na wynt cynnes – diolch i’r drefn! Dyma ein gwesty, mae’n anhygoel. Dan ni ddim yn gallu credu fo. Dan ni’n mynd ar “Jeep Safari” dydd Mercher. Cyfarchion i bawb. Gaynor. XX

Post Card from Jean in Brighton...

June (2008)

Annwyl Myfi, 

Mwynhau ein hunain. Dydy’r tywydd ddim yn boeth, ond does ‘na ddim cwmwl yn yr awyr!

 Jean. Xx

 Post Card from Gaynor and Lindy

in Egypt...

May(2008)

A post card from Gaynor and lindy in Egypt.

               

Annwyl bawb, Dan ni'n mwynhau ein hunain yn fawr iawn yma yn yr Aifft.

Mae'r tywydd yn boeth iawn a does 'na ddim cwmwl yn yr awyr. Bore ma 'ma

mae' na wynt cynnes, neis iawn! Dan ni'n eistedd wrth y pwll nofio ar hyn

o bryd ar ôl brecwast. Hwyrach fyddwn ni'n cael 1 neu 2 o cocktails - maen debyg!

Yfory dan ni'n hedfan i fyny i Gairo am 6 o'r gloch!! Gobeithio bod popeth yn iawn acw.

Wela i chi i gyd yn fuan.

 

Cofion cynnes i bawb.

 

Gaynor a Lindy