top![]() |
|
Tipyn o hanes/ A bit of News.Dyddiadur hwyaid…. gan Joy.(June 2008)
Dydd Iau – Gorffennaf 24ain Heddiw, wnaethon ni fynd i’r ardd adar (Pen y Ffrith). Wnes i ofyn i’r perchennog ar y fynedfa “Dach chi’n gw’bod rhywbeth am hwyaid?” (Wnaethon ni fynd i mewn) Yna mae ‘na lawer o hwyaid. Lliwiau gwahanol: siapiau gwahanol: meintiau gwahanol. Cwestiwn twp ‘nde? Mae’r ardd ‘ma yn dawel iawn efo golygfeydd hardd, coed, planhigion diddorol ac adar eraill. Dan ni wedi mwynhau ein ymweliad. Yfory, wnawn ni wneud y gorlan yn fwy yma. Yn y diwedd, mi hoffwn i ganiatau i’r hwyaid grwydro yr ardd ‘ma ar yr amod eu bod nhw’n ddiogel. Dydd Mawrth – Gorffennaf 29ain Wel, maen nhw’n lwcus! Heddiw wnaethon ni brynu pwll plastig ( efo caead – wedi ei fwriadu am y plant i chwarae efo dŵr neu dywod) Mae’r hwyaid wedi tyfu’n rhy fawr i nofio mewn hambwrdd cawod. Roedd rhaid iddyn nhw nofio i’r un cyfeiriad – pig i gynffon. Roedd ‘na helynt amser cawod. Felly rwan, rhaid i ni ddod o hyd i le i roi pyllau i alluogi nhw i fynd I mewn ac allan. Maen nhw’n nerfus iawn am unrhywbeth newydd – ac yn fusneslyd ar yr un pryd. Dydd Mercher, Awst 6ed. Mi gaethon ni’r pyllau a’u rhoi yn yr ardd, o dan y llwyn yn y gwely blodau, dim ar y lawnt, ac mae’r gorlan yn fwy rwan (ond dydyn nhw ddim yn defnyddio hi dim eto) Dan ni wedi cael gwared â’r twnel dros y dreif, a rwan mae gynnon ni ddigon o ffydd ynddyn nhw i groesi ar ben eu hunain. Dim problem – wnân nhw wneud unrhywbeth am fwyd! Maen nhw’n hoffi glaw; maen nhw’n hoffi dŵr; maen nhw’n hoffi’r bibell ddŵr; ac maen nhw’n hoffi chwarae yn y mwd – ond aros yn lân a gwyn. Sut? Dw i’m yn gw’bod. Dyddiadur hwyaid Awst 10fed …gan yr hwyaid. Dydd Gwener, yn y pnawn, wnaeth Myfi ymweld â ni, efo ei chamera. Wrth gwrs, dan ni’n sêr rwan. Roedden ni’n byhafio yn fawr iawn, a roedden ni’n edrych yn dda, yn enwedig wedi ein brwsio a’n paratoi ar gyfer yr achlysur. Dan ni’n siwr ei bod hi’n meddwl ein bod ni’n hardd. Wnaeth Myfi dynnu ein lluniau droeon. Gobeithio y byddwn ni ar y wefan. Dydd Iau – Awst 14eg Dw i’m yn siwr ond heddiw roedden ni’n siarad â’r hwyaid,roedden ni’n gweld un hwyaden efo cwrl bach o’r gynffon. O diar! O wel, os mai dim ond un ceiliog hwyaden sy yma mae hynny’n iawn. Felly mi fyddwn ni’n gallu cael cywion hwyaid y flwyddyn nesa. Dyddiadur hwyaden – Awst 28ain. Roedden ni’n sylweddoli bod gynnon ni ddau geiliog hwyaden – dim y gymhareb orau. (Mae’r llyfr yn deud 1:5; dim 2:1) Wedyn, wnaeth ffrind sy’n cadw hwyaid) ddod i yfed paned bore ‘ma, i siarad am y broblem. Wnaethon ni benderfynu cyfnewid un ceiliog. Felly, pnawn ‘ma “CHAOS”. Wnaeth y dyn drio ei ddal o a’roi fo mewn bocs. Llwyddiant! Ond dim heb anhawsterau. Serch hynny, rwan mae’r ceiliog yn byw efo ei rieni a chefndryd mewn cae mawr efo nant. Neis iawn. Rwan, mae gynnon ni un ceiliog ac un hwyaden. Gobeithio y cawn ni ddwy hwyaden arall yn fuan. Awst 29fed – gan y ddwy hwyaden. “Lle mae ein brawd ni ‘te?” “Yn bell i ffwrdd, mewn cae efo nant. Dw i ‘di clywed y bobl yn deud. Dw i’m yn gw’bod pam” “Dw i’n gw’bod. Dôn i ddim yn hoffi cael fy mwlio gan y ddau ohonoch chi. Dw i’m yn hoffi ‘y ngwddf yn cael ei frathu neu cael fy ngwthio o dan y dŵr. Dw i’n hoffi i’r ceiliog fod yn garedig, dim yn angharedig! Rwan, ti ydy’r unig ddyn sy ar ôl. Dw i isio i ti fod yn ystyriol ohona i. Isio llonydd dw i!”
Mwy am yr hwyaid…gan Joy. Dydd Sadwrn, Gorffennaf 5ed. Dach chi’n cofio ‘y mod i’n methu dod o hyd i ddigon o falwod i roi i’r hwyaid? Wel, dydd Iau diwetha, wnaeth y dyn a fi gael gwared i glawdd draenen wen (pigog iawn). O dan hwn, wnaethon ni ddod o hyd i lawer o falwod. Wnes i roi’r malwod mewn pot iogwrt gwag, a wnes i roi’r caead yn ôl rhag ofn iddyn nhw ddianc. Rhaid bod ni wedi dod o hyd i tua hanner cant. Gwledd ‘nde! OND ôn i’n meddwl bod hynny’n ormod ar unwaith, felly maen nhw wedi bod yn eu cael nhw bob yn dipyn. Dw i’n siwr bod yr hwyaid yn gw’bod lle wnes i roi’r pot. Bob tro, pan maen nhw’n gweld ni, maen nhw’n gofyn i ni am fwyd. Fallai dan ni wedi gwneud camgymeriad. Mae gan yr hwyaden leia gwac isel, felly dan ni’n meddwl rwan mai ceiliog hwyaden ydy o! Pwy a ŵyr? Dydd Mercher, Gorffennaf 15fed. (gan yr hwyaid…) Wel, dydy hi ddim wedi ysgrifennu dyddiadur ers talwm. Mae hi’n deud “’Sgen i ddim amser. Dan ni wedi cael ffrindiau yn aros yma, a dan ni wedi ymweld â’r Eisteddfod Ryngwladol. Hefyd, dan ni’n brysur yn yr ardd” Dan ni’n dal yn adar hardd – bron yn oedolion rwan (ond dan ni dal ddim yn datgelu os dan ni’n hwyaid neu geiliog hwyaid). Dan ni’n hoffi gwlithod a malwod yn fawr iawn. Dan ni wedi derbyn anrhegion da gan ddrws nesa (y ddwy ochr) – bocs o falwod. Diolch yn fawr iddyn nhw. A deud y gwir, dan ni’n hoffi ein bwyd yn fawr iawn. Dan ni’n bwyta gwenith, glaswellt a bara (os dan ni’n cael siawns), a dan ni’n yfed llawer o ddŵr. Rhaid i ni roi ein pennau o dan y dŵr i gadw ein llygaid yn lân. Wrth gwrs, rhaid i ni gael cawod yn aml i gadw ein plu yn dda – i fod yn hardd. Dydd Mercher, Gorffennaf 22ain. Yr wythnos ‘ma, roedd yr hwyaid yn bwrw plu, felly rwan maen nhw’n edrych yn dda – mwy golygus. Mae ‘na blu ym mhobman yn yr ardd. Piti bod yr adar ddim yn gwneud eu nythod rwan, fasai’r plu yn gwneud leinin meddal a chynnes. Mae eu plu yn wyn – er eu bod nhw’n nofio mewn dŵr budr. Mae gan yr hwyaden fach bump smotyn du ar ei phen, ac un bluen ddu ar ganol ei chefn hi. Dw i’n tybio bod tyfu plu yn defnyddio llawer o egni, achos maen nhw angen bwyd trwy’r amser. Oes ‘na rywun yn gallu deud wrtha i pam dydyn nhw ddim yn rhoi pwysau ymlaen! Wel, dan ni erioed wedi cadw anifeiliaid o’r blaen, heblaw am gath neu gi. Mae gynnon ni lawer o wlithod yn ein gardd – poendod ‘nde? Felly, mi benderfynon ni gadw hwyaid.Mehefin 4ydd. Mi gyrhaeddodd tair hwyaden eitha bach dydd Mercher yn yr hwyr. Es i yn y car i nôl nhw. Doedden nhw ddim yn hoffi’r daith mewn bocs. Yn ffodus, doedd o ddim yn bell. Roedd ‘y ngŵr wedi gwneud tŷ hwyaid “posh” iawn ac ôn i wedi rhoi gwellt tu mewn a pwll bach tu allan yn y gorlan (fach hefyd). Beth bynnag, ymgartrefon nhw. Mi adawon ni’r hwyaid yna trwy’r dydd Iau. Roedden nhw’n hapus.Y bore wedyn, Mehefin 6ed, ar ôl brecwast, gaethon nhw eu rhyddid mewn corlan fwy. (Roedden ni wedi rhoi ffens o gwmpas darn o’r ardd efo clawdd ar hyd un ochr) Yn syth, cuddion nhw yn y clawdd, wedyn dihangon nhw drws nesa. O diar! Roedden ni angen cynllun arall. Gaeth yr hwyaid eu dychwelyd i’r gorlan fach. (Roedd y darn yna’n anodd iawn!) Cynllun B. Wnawn ni roi ffens o gwmpas y lawnt fach tu ôl i’n tŷ, ond mae ‘na broblem. Mae ‘na fwlch eitha mawr rhwng y gorlan fach a’r lawnt. Wnawn ni ddefnyddio ‘styllen fel croesfan. Syniad da. Roedd yr hwyaid yn hapus iawn eto yn y gorlan newydd, trwy’r dydd Mae’r hwyaid yn edrych yr un fath, ond pa hwyaden ydy’r arweinydd?Maen nhw’n “synchronised”. Mae un hwyaden yn eistedd, mae pob hwyaden yn eistedd; mae un yn galw “Quack” (wel, gwich, a deud y gwir), mae’r ddwy arall yn galw “Quack”; maen nhw’n cerdded efo’i gilydd, bwyta efo’i gilydd, a hyd yn oed ymestyn efo’i gilydd. Ond wedi’r cyfan – maen nhw’n “triplets”. Yn lle’r ‘styllen, wnaethon ni fenthyg twnel o’r ardd lysiau – datrysiad dros dro. Mehefin 7fed – Dydd Sadwrn.Mae’r hwyaid yn hoffi bwyta’r chwyn o’r pwll ddarganfyddon ni. Da iawn. (Mae gen i ddigon, ond rhaid i mi nôl nhw o’r pwll yn yr ardd efo hen ogr) Mae’r twnel yn fwy ystwyth rwan – ( ar ôl gwaith hir efo rhwyd a phethau ailgylchu).Mae’r cymdogion yn deud wrthon ni eu bod nhw’n hoffi ein cywaith. Dydd Sul – Mehefin 8fed.Mae’r hwyaid yn tyfu yn gyflym iawn. Maen nhw tua saith wythnos oed dw i’n credu. Pan gaethon nhw eu geni, roedden nhw’n fach iawn wrth gwrs efo plu melyn. Gaethon nhw eu deor o dan nyth iâr – felly roedden nhw’n meddwl mai’r iâr oedd eu mam. Rwan, mae gynnyn nhw ni yn unig. Felly, maen nhw angen addysg (Dach chi wedi gweld “Crane School” ar y teledu ar y rhaglen “Spring Watch”? Wel, ddylen ni gael “Duck School” yma. Heddiw dan ni’n hyfforddi nhw i fwyta gwlithod a malwod. Blasus iawn! Dydd Mercher, Mehefin 10fed.Mae’r hwyaid yn gyfeillgar rwan. Maen nhw’n dod pan dan ni’n cerdded heibio. Wel – mae gynnon ni fwyd! Y wers heddiw ydy “Rhaid i chi chwilio am fwyd ar ben eich hunain” Felly, wnaethon ni daflu bwyd i mewn i’r llwyni bore ‘ma. “Chwiliwch yna” ddudon ni. Dach chi’n cofio Rhys a Heulwen Roberts (Stori 5 Llanllawen 3)? “Sgynnyn nhw ddim plant, ond mae gynnyn nhw lawer o anifeiliaid. Mae anifeiliaid yn haws na phlant medden nhw” Mae ‘y nheulu wedi mynd, a sgynnon ni ddim llawer o anifeiliaid – dim ond tair hwyaden, ond, dw i’n cytuno – maen nhw’n haws na phlant.
Mwy am yr hwyaid…gan Joy.
Dydd Mercher –
Mehefin 11eg. Mae ‘na un yn fwy na’r lleill. Ceiliog hwyaden ydy o?
Mi fasai hi’n neis os oes gynnon ni un ceiliog hwyaden a dwy hwyaden.
Mae ‘yn ffrind yn deud wrtha i bod gan geiliog hwyaden gynffon efo
modrwy, ac mae o’n gwneud sŵn gwahanol. Rhaid i ni wrando a gwylio.
Heddiw, wnaethon ni brynu llyfr o’r enw “ Keeping Poultry” Rwan dan
ni’n gallu darllen popeth am hwyaid. Rwan, hefyd, dan ni’n gallu
gwneud newidiadau bach i’r tŷ a’r gorlan. Mae gynnon ni hwyaid hapus.
Dydd Sadwrn – Mehefin 15fed.Dan ni’n hoffi bod yn “Green”. Dan ni’n
ceisio ailgylchu cymaint o bethau â phosib. Hefyd, dw i’n ceisio
tyfu digon o lysiau a ffrwythau i ni fwyta – fel “The Good Life”. (Dach
chi’n cofio hwn?) Mae’r hwyaid yn hoffi dŵr glân. (Wel afonydd a
deud y gwir) Mae gynnon ni hen hambwrdd cawod i’r hwyaid – wedi ei
lenwi efo dŵr glaw. Bob nos, dw i’n gwagio’r dŵr i’r hambwrdd, wedyn
ei ddefnyddio fo i ddyfrio planhigion yn y tŷ gwydr a basgedi crog.
“Green” neu be?
Mehefin 21ain. Tasai’r hwyaid yn gallu siarad, fasen nhw’n deud…
Tasai’r hwyaid yn gallu siarad, fasen nhw’n deud… “ Dan ni’n deffro yn gynnar, wedi’r cyfan, mae’r haul yn codi yn gynnar ym mis Mehefin, a heddiw mae hi’n ddiwrnod hiraf o’r flwyddyn. Dan ni ddim yn cael ein rhyddhau nes i’r dyn godi ac agor y tŷ. Yn syth, dan ni’n rhedeg i’r pwll. (Mae rhywun wedi rhoi dŵr glân efo chwyn i mewn yn ystod y nos. Da iawn!) Dan ni’n gallu nofio, tasgu, bwyta a chael cawod yna. Nes ymlaen, mae’r wraig yn ymweld â ni. Dan ni’n nabod ei llais, a dan ni’n rhedeg ati hi, rhag ofn bod gynni hi rywbeth i fwyta. Felly, mae hi’n dod o hyd i falwod a gwlithod. Blasus iawn. Yn anffodus, dan ni’n meddwl ein bod ni’n bwyta gormod, achos rwan does ‘na ddim digon. Mae hi’n deud wrthon ni “Helo ffrindiau bach. Dach chi’n hardd. Dach chi’n dda.” Weithiau, rhaid i ni gysgu, felly dan ni’n eistedd efo’n gilydd a rhoi ein pennau ar ein cefnau. Beth bynnag, rhaid i ni aros yn wyliadwrus. Rhaid i ni beidio methu rhywbeth. Os dan ni angen bwyd, dan ni’n dychwelyd i’r gorlan. Yna, mae ‘na fwyd i ni a mwy o ddŵr. Hefyd, dan ni’n gallu crafu yn y planhigion. O, mae bywyd yn hwyl! Yn fuan, mae hi’n amser gwely. Dan ni’n mynd i’r gwely fel hwyaid da – dim problem. Mae hi’n siarad eto. “Ewch i mewn, mae hi’n amser gwely. Nos da.” Hefyd mae hi’n agor y drws. Yn ôl at y dyddiadur…. Mehefin 24ain Rargien fawr! Dydd Sul diwetha, roedd hi’n wyntog iawn, iawn. Roedd ‘na lawer o ddifrod yn ‘y ngardd. Doedd yr hwyaid ddim yn hoffi gwynt. Wnethon nhw guddio yn eu tŷ – mae’n ddiogel yna. Ddoe, dydd Llun, wnaethon ni symud y ffens o gwmpas y lawnt gefn, rwan, mae gan yr hwyaid fwy o le, gan gynnwys ein pwll bach. Heddiw, roedd yr hwyaid wedi cael diwrnod da. Mae ‘na bethau newydd i archwilio…ond dydyn nhw ddim yn darganfod ein pwll bach! Mehefin 25ain – Gwych! Cyffrous! Maen nhw’n darganfod y pwll! Yr hwyaden fach ydy’r fforiwr mawr! Yna, maen nhw’n gallu rhoi eu pennau o dan y dŵr – cynffonau i fyny! Maen nhw wedi bwyta chwyn y pwll i gyd a chynhyrfu’r dŵr. Gobeithio bod y penbyliaid wedi dianc. ( A deud y gwir, doedd y fforiwr – yr hwyaden fach – ddim yn gallu mynd allan o’r pwll y tro cynta, felly wnaeth y dyn ei helpu hi. Wnaeth hi ddysgu yn gyflym. Rwan, mae’r dair ohonyn nhw yn gallu mynd i mewn a mynd allan – dim problem!) Dydd Sul, Mehefin 29ain Dw i’n dal i aros i weld y cynffonau cyrliog – neu beidio. Mae’r fforiwr ( a’r fwya dewr) dal y lleia. Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwyta mwy na’r rhai eraill. Yn sicr iawn, hi ydy’r gynta i fwyta a’r fwya cyflym i gyrraedd y bwyd. Dan ni’n gwybod rwan bod yr hwyaid yn “ Aylesbury and Indian Runner Cross”. Pan maen nhw’n wlyb, maen nhw’n edrych yn denau – fel “wine bottles on legs” meddai’r llyfr, ac maen nhw’n gallu rhedeg yn dda! Wnaeth y dyn eu rhyddhau nhw yn gynta bore ‘ma, a phan wnes i ddeffro, wnes i glywed sŵn fel rhywun yn glanhau gwydr (gwich, gwich), ond wedyn roedd ‘na sŵn uchel, “Cwac, cwac, cwac! Lle mae ein bwyd?” Yn hwyrach ymlaen wnaethon ni ddarganfod cragen falwoden wag wrth y drws cefn. Dan ni’n meddwl eu bod nhw’n ceisio deud rhywbeth wrthon ni!
|
|