A Post Card from/Cerdyn Post o…
Members Post Cards from places as far apart as Corwen and Casablanca.
Cardiau post ein aelodau sy’n crwydro’r byd….o Gorwen i Gasablanca!
Cerdyn post gan Sylvia ac Ian.....yn Yr Almaen
June2011
Dan ni wedi mynd i’r Almaen i weld ein mab. Dan ni wedi cerdded hefyd ar hyd yr afon Rhein.
Gwych!
Sylvia ac Ian
Cerdyn post gan Ian....o Ogledd Iwerddon
June 2011
Annwyl bawb,
Dyma ni yn Iwerddon. Mae ffordd y din mawr yn fendigedig. Mae o’n edrych yn artiffisial. Fedra i ddim credu pa mor fawr ydy’r Burren!
Oddi wrth Ian.
Cerdyn post gan bawb.....o Ynys Enlli. Dydd Sadwrn, 11eg o Fehefin 2011
Annwyl bawb,
Dan ni wir wedi mwynhau ein hunain yma ar Ynys Enlli (ac yn Aberdaron hefyd wrth gwrs!). Roedd y tywydd yn fendigedig. Heulwen o wal i wal. Dim awel o wynt (a doedd na ddim cwmwl yn yr awyr!). Roedd y môr yn wastad iawn hefyd. Ffiw! Roedd Colin y Cwch yn gyfeillgar iawn. Ar y cwch wnaeth o sôn am yr holl adar oedd yn byw ar Enlli a bod ‘na ddim llygod mawr ar yr ynys. Neis iawn ‘nde! Dim llwynogod chwaith. Welon ni lawer o balod (puffins) yn eistedd ar y creigiau ac yn hedfan o’n cwmpas. Ew maen nhw’n ciwt! Welon ni frain coesgoch (chough yn Saesneg a pyrrhocorax pyrrhocorax yn Lladin – clyfar ‘nde!). Maen debyg bod yr hebog tramor yn byw ar Enlli hefyd (peregrine falcon yn Saesneg – falco peregrinus yn Lladin – clyfar iawn iawn ‘nde!)
Uchafbwynt mawr i lawer ohonon ni oedd gweld – a chlywed - yr holl forloi (sea lions) yn gorwedd ar y môr ac yn torheulo ar y creigiau. Anhygoel wir! Profiad heddychlon iawn oedd bod ar Enlli. Dan ni’n deall yn iawn pam bod y pereinion cynnar yn heidio yno! Dan ni wedi bod unwaith rwan – ac yn ôl Colin- os dan ni’n mynd tairgwaith mae’n cyfri fel pererindod i Rufain (wel, roedd hyn yn wir amser maith yn ôl beth bynnag!).
Yn ôl i Manaros yn Aberdaron wedyn ac i farbiciw ffantastig Jan. Blasus neu be! Diwrnod bythgofiadwy!
Cofion cynnes,
Colin, Angie, Jan, Andy, Sylvia, Robyn, Sylvia, Ian, Marion, Kate, Elaine, Daf, Myfi a Geoff.
Cerdyn post gan Jane....yn Madrid
(Feb 2010)
Annwyl Bawb,
Dan ni’n cael amser da yma yn Madrid. Dan ni wedi mynd o gwmpas y ddinas ar fws twristiaid heddiw. Yfory dan ni’n mynd i gêm bêl droed. Dan ni’n cael tapas a gwin coch heno! Mae’r tywydd yn oer ond yn sych. Hwyl am y tro.
Jane, Richard, Rhys a Bethan
Cerdyn post gan Val Merle……yng Nghernyw.
Annwyl Myfi a phawb yn Llanllawen 2, Llangollen,
Dyma ni yng Nghernyw. Dan ni wedi bod yn cerdded ar hyd y llwybrau arfordirol ac ar y traethau prydferth. Ew, roedd y môr yn dawel iawn! Dan ni wedi gweld llawer o forloi ac yfory dan ni’n mynd ar fferi i Sant Just. Mae Val fel twpsyn efo’r siopau ac mae Merle wedi gorffen ei siopa Nadolig!
Hwyl fawr i chi gyd,
Val a Merle XX