Ymweliad ag Oriel Plas Glyn –y- Weddw, a Llanllawen, dydd Sul 21ain Hydref 2007
Neu: Y diwrnod aethon ni i
Lanllawen….
Roedd hi’n braf ac yn heulog pan
aethon ni ar “Antur Fawr” i ddarganfod Llanllawen.
Yn gyrru yn ein car ein hun, aethon ni yn gynta i Oriel Plas
Glyn-y-Weddw, Llanbedrog. Bwyton ni ginio a chael paned yn yr ystafell
arbennig i’r Clwb – bwyd blasus iawn. Roedd ‘na lawer o sgwrsio yn
Gymraeg ac yn Saesneg, efo 29 o bobl.
Ar ol cinio, edrychon ni ar y lluniau o gwmpas y ty. Roedd ‘na lawer o
luniau (on i’n hoffi rhai,ond dim rhai eraill, ond dw i ddim yn
artist)..On i’n hoffi lluniau gan Alison. Mae hi’n peintio lluniau
anifeiliaid “Buchod wrth Ddwr” – llun da iawn.
  
Eleni mae Oriel Plas
Glyn-y-Weddw, Llanbedrog,Penrhyn Llyn,yn dathlu canrif a hanner.
Adeiladwyd y ty ym 1856 i’r Fonesig Elizabeth Love Parry Jones. Mae’r
ty yn Gothig Fictoraidd ac mae o wedi cael ei restru yn “Gradd 2” gan
CADW. Mae hanes y ty yn
ddiddorol iawn.

Ar ol
sgwrs fer gan Gwyn y cyfarwyddwr, yrron ni i ben pella’r penrhyn yn
osgordd, i ddarganfod Llanllawen.Darganfyddon ni ardal “ National Trust”
o’r enw Llanllawen (dw i’n credu). Ond lle roedd Porth Llanllawen? Acw
yn y pellter! Doedd ‘na ddim ffordd i lawr y clogwyn.Mae’r ardal
arfordirol yn hyfryd iawn. Edrychwch ar luniau Clwb Llanllawen. Cafodd
llawer o luniau eu tynnu.
Gan Joy
Rwan mae
Myfi yn cario’r stori ymlaen i ddeud
be
ddigwyddodd nesa……
|
|
|
View of Porth Llanllawen.
|
|
|
|
Bardsey Island. Burial place of a thousand Saints.
|
|
|
|
Cliff top Walk.
|
|
|
|
Photo opportunity.
|
|
|
|
|
|
Porth Llanllawen in the sunshine.
|
|
|
|
Clwb Llanllawen Meets Llanllawen Fawr with Myfi, Jan & Ashleigh.
|
|
|
|
Teulu Llanllawen.
|
|
|
Roedd criw
bach ohonon ni wedi mentro i lawr y llwybr defaid i syllu ar Borth
Llanllawen – mor agos ond mor bell! Roedd yr olygfa yn anhygoel wir!
Ond wrth gwrs doedden ni ddim yn gallu mynd ymhellach. Felly gerddon
ni yn ol i fyny’r llwybr defaid i gyfeiriad y ceir (roedden ni wedi
parcio yn yr hen le”gwylio” neu “look out” yr Ail Ryfel Byd). Un ochr
roedd Porth Llanllawen ,a’r ochr arall Ynys Enlli. Roedd golau’r
goleudy wedi dechrau fflachio erbyn hyn. Roedd Enlli hefyd yn edrych
mor agos ond roedden ni i gyd wedi clywed am y dwr peryglus rhwng y tir
mawr ac Ynys Enlli – y Swnt. Ond eto – anhygoel o hardd!
Roedd hi’n
amser i ni droi am adre. Penderfynodd pump ohonon ni yrru heibio fferm
Llanllawen Fawr. Roedden ni wedi clywed am y fferm, felly be am yrru
heibio dim ond i weld….
Welon ni’r fferm yn glir o’n
blaenau a’r ffermwr yn sefyll wrth y drws yn siarad efo rhywun. Rhaid i ti fynd i siarad efo
fo Myfi!” meddai Jan yn sydyn
“O ec” feddylies i
(achos roedd ‘na ddau gi defaid yn rhedeg o gwmpas y buarth – oedden
nhw’n gyfeillgar tybed?)
Beth bynnag i ffwrdd a
fi efo llyfr Llanllawen coch disglair dan fy nghesail yn teimlo braidd
fel Eamon Andrews…
Doedd dim
rhaid i mi boeni! Am groeso! Robert Jones oedd y ffermwr a gadawodd i
ni dynnu ein lluniau o gwmpas y giat yng nghwmni’r ddau gi annwyl!
Wedyn dyma
Carol ei wraig yn cyrraedd ac yn ein gwahodd i mewn i’r gegin i gael
paned a bisgedi (siocled!). Arhoson ni yno am awr yn sgwrsio efo’r
teulu. Mae gynnyn nhw bump o blant – wnaethon ni gyfarfod dau ohonyn
nhw –sef Sion a Catrin – plant hyfryd!
Roedd y
teulu’n mynd yn ol bump cenhedlaeth yn “Llanllawen Fawr” ac roedd Carol
wrthi yn ymchwilio i mewn i hanes y teulu. Welon ni hen luniau o
ddechrau’r ganrif diwetha yn dangos teulu Llanllawen ar y buarth yng
nghwmni’r forwyn a chlamp o ful yng nghanol y llun!
Soniodd
Carol wrthon ni am yr hen chwarel wrth ochr y ty lle roedden nhw’n arfer
cloddio am “Garreg Jasper” goch sy’n eitha prin mae’n debyg. Mae ‘na
beth ohono ym Manc Lloegr yn Llundain ac yn yr adeiladau”Liver” yn
Lerpwl. Mae ‘na “Garreg Jasper” werdd yn Ne Affrica meddai hi

Felly dyna
fo! Roedd yr antur drosodd. Roedden ni wedi gweld lluniau’r Oriel,
wedi gweld golygfeydd anhygoel ac wedi cyfarfod teulu hyfryd Llanllawen
“go iawn”
Un peth
arall diddorol ddysgon ni hefyd. Darllenodd Alison mewn llyfr am yr
ardal mai “Llanllywen” oedd enw’r ardal yn wreiddiol ar ol Sant Llywen.
Roedd Llywen yn byw yno yn y seithfed ganrif dan ni’n meddwl. Felly
camgymeriad ydy’r enw “Llanllawen” – ond am gamgymeriad hyfryd ‘nde!
|