![]() |
|
Members StoriesYou can also visit "Tipyn o hanes"/"A bit of news" from here.
Y ddamwain….gan Paul.(June 2008)Un diwrnod braf, pan ôn i’n dair oed, ôn i’n helpu Dad yn yr ardd, pan basiodd fan lysiau heibio a stopio. Cerddodd Mam dros y ffordd i gael ei siopa. Roedd Dad yn brysur yn torri’r glaswellt. Wnes i afael yn ei goes a gofyn : “Ga i fanana Dad?” “Wrth gwrs” meddai fo “Cer i ofyn i Mam” Doedd o ddim yn gw’bod bod Mam wedi mynd i’r fan lysiau. Wnes i redeg, heb edrych, i ofyn i Mam - syth i’r ffordd a syth i’r car oedd yn pasio. Aeth Dad, Mam a fi yn syth i ysbyty Rhuthun, ond yn lwcus dim ond cleisiau ges i. Un peth da, ges i gi bach fel anrheg o’r enw Tiny, achos roedd y ffarier wedi deud bod y ci ddim yn mynd i dyfu. Ond wnaeth o dal i dyfu a thyfu a thyfu!!
Pan ôn i’n ifanc….gan Lindy.(June 2008) Pan ôn i’n ifanc roedden ni’n byw mewn bwthyn ar stad Rhug yn ardal Corwen. Roedd gen i ddwy chwaer o’r enw Gail a Heather, a roedden ni yn ffraeo weithiau. Fi oedd yr hyna, a fi oedd yn cael y bai a chwip din oddi wrth Mam.Roedden ni’n hapus iawn ar y cyfan, ond roedd pres yn brin adeg hynny. Roedden ni’n cael bath mewn tin o flaen y tân ar y mat coco ym mwthyn Nain a Taid. Roedden ni’n hoffi mynd ar wyliau i dŷ Nain a Taid, Roedd Taid yn tyfu llysiau a ffrwythau yn yr ardd. Roedden nhw’n flasus iawn – roedd yn amser arbennig. Es i i Ysgol y Berwyn, Y Bala, a roedden ni’n hapus iawn yn yr ysgol. Ôn i’n canu yng nghôr yr ysgol a chôr y sir, a roedden ni’n ennill llawer o gystadlaethau.Yn anffodus, wnaeth fy nhad i farw pan ôn i’n ifanc. Ôn i’n 14 ac ar wyliau yn Yr Almaen efo’r ysgol ar y pryd. Ges i fraw mawr pan roedd y Parch yn aros amdana i yn yr orsaf i dorri’r newyddion, ond roedd pawb yn garedig iawn amser hynny
Yr hogiau tebygol (a’r pwdinau rhyfedd iawn) .…gan Geoff(May2008)Ôn i’n edrych ar hen gerdyn post o dre ar lan y môr ac ar y cefn roedd ‘na ysgrifen anrhefnus. Fi sy biau’r ysgrifen ‘ma ôn i’n meddwl! Wnes i edrych ar y cerdyn eto: “Annwyl Mam a Dad. Mae’r tywydd yn iawn, mae’r gwesty yn iawn, mae’r bwyd yn iawn a dw i’n iawn!” Cariad, Geoff. Campwaith ‘nde! ( Wel ôn i’n ifanc a does ‘na ddim llawer o le ar gerdyn post chwarae teg!) Mi ddaeth atgofion hoff yn ôl – ac atgofion annifyr hefyd. Mi ddechreues i chwerthin i’n hun…. Hanner can mlynedd yn ôl mi gyrhaeddodd ‘yn ffrind a fi yr orsaf yn Rhyl heulog. Bore dydd Sadwrn ym mis Awst oedd hi. Roedden ni’n gyffrous iawn achos roedd o’n wyliau cynta heb ein teuluoedd! Mi gerddon ni efo ein cesys trwm ar hyd yr heolydd prysur i’r gwesty, lle oedden ni’n aros am wythnos. Dim problem. Ond pan dw i’n edrych yn ôl roedd o yr unig beth iawn wnaethon ni trwy’r wythnos! Wnaeth y wahoddwraig gwrdd â ni wrth y drws ac roedd ei merch yn sefyll wrth ei hochr hi. Roedd y ferch yn dlws ac yn swil iawn. Yn yr hwyr wnaethon ni eistedd yn yr ystafell fwyta yn aros am ein cinio. Roedden ni’n dawel ac yn gwrtais iawn. Yn ystod y cinio roedden ni’n bwyta yn araf a roedden ni’n dewis y gyllell iawn a’r ffyrc iawn mewn trefn. Wnaethon ni wenu ar y ferch bob amser ddaeth hi wrth ein bwrdd – a deud y gwir fasen ni’n gwneud hyn pan roedd hi wrth y byrddau eraill hefyd! Yn y diwedd wnaeth hi wasanaethu i ni ein pwdinau – roedd y bobl eraill o gwmpas ein bwrdd wedi gorffen eu pwdinau erbyn hyn. Roedd y ferch yn edrych yn drist ar y bowlen o hufen yng nghanol y bwrdd. Roedd y bowlen yn llawn dop achos doedd neb wedi bwyta hufen efo eu pwdinau. Bechod! Doedden ni ddim yn gadael i fwyd fynd yn wastraff. Yr hogiau tebygol amdani! Wnaethon ni roi llawer o hufen ar ein pwdinau. Wnaeth y ferch edrych yn geg agored arnon ni – wedyn wnaeth hi gerdded yn gyflym i’r gegin. Mwy o hufen i’r hogiau oedden ni’n meddwl! Wnaeth ‘yn ffrind flasu ei bwdin ac aeth ei wyneb yn goch llachar. “Ych a fi – hufen salad!” meddai fo. (Wnaeth o ddeud rhai geiriau eraill hefyd ond dydyn nhw ddim yn ‘y ngeiriadur) Wnes i flasu ‘y mhwdin – roedd o’n ofnadwy! “Rhaid i ni orffen bwyta ‘y pwdinau rwan neu wnân nhw feddwl mai ffwdanus dan ni” meddai fi. “Os dan ni’n gorffen bwyta’r pwdinau wnân nhw feddwl mai twp dan ni!” meddai ‘yn ffrind. Beth bynnag, mi benderfynon ni orffen y pwdinau. Roedd y wahoddwraig yn yr ystafell rwan ac yn edrych arnon ni. Mi ysgydwodd hi ei phen yn araf yn edrych ar y nenfwd cyn iddi hi ddychwelyd i’w chegin. Wnaethon nhw ddim rhoi hufen salad ar ein bwrdd eto yr wythnos’na! Diwedd yr wythnos wnaethon ni brynu anrheg i’r ferch. Bocs o siocled oedd hi ond roedden ni wedi anghofio i brynu papur neis i lapio’r anrheg! Yn ffodus wnes i ddod o hyd i ddarn o bapur brown yng ngwaelod ‘y nghês. Roedd o wedi crychu ond y bwriad ydy’r peth pwysig medden nhw. Ysgrifenon ni:” I ferch y wahoddwraig, diolch yn fawr iawn, yr hogiau!” (Doedden ni ddim yn gw’bod ei henw hi dach chi’n deall) Mi wnaethon ni roi’r anrheg ar y bwrdd yn ein ‘stafell – ac i ffwrdd â ni!
Byw yn wlad yn ystod y Rhyfel….gan Daphne.(May2008)Pan ôn i’n ifanc, ôn i’n byw yn y wlad achos yr Ail Ryfel Byd. Roedd rhaid i ni symud o Birmingham. Ôn i’n byw mewn tŷ bychan ar bwys Moreton in Marsh. Roedd gen i frawd a chwaer. Roedden ni’n mynd i’r ysgol – pawb mewn un dosbarth! Roedden ni’n mwynhau’r wlad – dim bomiau. Roedden ni’n mynd i’r ysgol dros gae awyrennau. Roedd gwarchodwr y llidiart yn deud “ Arhoswch! Pwy sy’n mynd ‘na?” Roedd ein tad yn filwr. Wnaeth o fynd i Dunkirk ond wedyn dod yn ôl. Diolch i Dduw. Roedden ni’n hoffi byw yn y wlad yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Gan....Jan(May2008)Pan ôn i’n ifanc. Ges i fy ngeni yn ysbyty H.M.Stanley yn Llanelwy, ond ges i fy magu yn ardal Wallasey. Ôn i’n byw yn y dre efo mam a’fy nhad a fy chwaer. Mae hi’n hŷn na fi. Oedden ni’n blant hapus, doedd gynnon ddim llawer o bres, ond oeddeni' n hapus iawn. Roedd gynnon ni gi o’r enw Oggie, oedd o’n ddau ddeg un pan wnaeth o farw Ôn i’n hoffi chwarae allan efo fy nghi, ond dôn i ddim yn hoffi aros i mewn.
Fy nghath annwyl….gan Gaynor(May2008) Pan ôn i’n ifanc ôn i’n byw mewn hen fwthyn bach yn y wlad yn ardal Llangollen efo fy mam a fy nhad. Roedd o’n neis iawn. Ôn i’n chwarae yn y berllan trwy’r dydd yn yr heulwen efo fy nghath o’r enw Sammy a fy noliau. Ôn i’n rhoi dillad ar y gath – bechod! Roedd Sammy yn gath dda iawn ac roedd o’n cysgu fel babi yn y gwely doli. Roedd o’n ddoniol iawn ac ôn i’n ei garu fo’n fawr iawn. Rhedes i yn y caeau ymysg y gwartheg, ond roedd gen i ofn y gwartheg. Rhyfedd ‘nde? Yn anffodus roedd rhaid i ni symud i mewn i dŷ arall mwy pan wnaeth fy mrodyr gyrraedd achos roedd y bwthyn yn rhy fach, ond dim ots roedden ni’n hapus iawn efo’n gilydd yno hefyd, ond roedd rhaid i’r gath aros ar y fferm achos doedd o ddim yn hoffi symud. Ôn i’n ei fethu fo ar y pryd. Wnes i ddim cael cath fel fo ers hynny Ôn i’n hoffi darllen o dan y blancedi yn fy ngwely efo torts, ac roedd fy mhlant yn mwynhau gwneud hynny hefyd. Mae bywyd yn rhyfedd!
Plentyndod ar Exmoor….gan Heather.(April2008)Ges i fy ngeni yn Yr Alban mewn lle bach o’r enw Struan ond fy magu ar Exmoor yng Ngwlad yr Haf. Pan ôn i’n ifanc ôn i’n hoffi canu, chwarae’r piano a chwarae tennis ar laswellt, bod yn ein dillad crandiaf a gwneud i bobl chwerthin. Roedd llawer o actorion yn dod i aros efo ni pan ôn i’n ifanc – fel y Redgraves – ac roedden nhw’n gadael dillad gwisgo i fyny i ni. O ie – a dringo coed a chasglu afalau yn y cynhaeaf a gwisgo jeans. Dôn i ddim yn hoffi gwneud gwaith cartre Maths. Ôn i’n blentyn hapus ar y cyfan er hynny yn swil. Ôn i wrth ‘y modd yn bwyta mefus a roedd gen i ferlen o’r enw “Plu”(speckled gwyn). Merlen Mynydd Gymreig. Roedd un cyhoeddwr mewn sioe geffylau yn deud “Grug ar Plu” neu “Miss Heathers on Feather” Drwg! Wel – dyna fo! Swper Taten Bob…. gan Margaret.(April2008)Pan ôn i’n ifanc ôn i’n byw ym Manceinion. Ges i fy ngeni yn Ysbyty’r Santes Fair yng nghanol y ddinas ond wnaeth fy mrawd gael ei eni adre. Ôn i ddim ond tair oed ond dw i’n cofio ei enedigaeth o. Wnaeth fy mam a fy nhad roi’r babi newydd i mi i anwesu. Yn aml, roedd fy nhad yn gweithio’n hwyr. Yn y gaeaf roedd hi’n dywyll cyn iddo fo gyrraedd adre. Ôn i’n hoffi aros i fyny tan iddo fo gyrraedd. Pan ôn i’n lân ar ôl bath mewn tun o flaen y tân a phan ôn i’n gwisgo fy mhyjamas Wincyette, roedd fy mam yn paratoi swper i fy nhad ac roedd hi’n gwneud taten bob i mi. (Roedd ystafell molchi yn y tŷ, ond achos roedd hi mor oer, pan ôn i’n ifanc, ôn i’n cael bath yn yr ystafell fyw!) Roedd y daten bob yn arbennig hefyd. Roedd fy mam yn sgwpio’r daten allan o’r croen ac roedd hi’n cymysgu’r daten efo menyn, tipyn o laeth a halen a phupur, a’i roi yn ôl yn y croen. Blasus iawn!
Y bwthyn bach….gan Joy(Mar2008)Pan ôn i’n ifanc – wel tua tair ar ddeg, dw i’n credu – roedd y teulu ar wyliau. Roedden ni’n aros mewn bwthyn haf bach iawn, iawn – fel carafan – un ‘stafell yn unig efo digon o le bob nos, i roi pedwar gwely yna ochr yn ochr ( cysurus ie?). Drws nesa, roedd ‘na deulu efo ci bach (ci selsig dw i’n credu). Un nos – tua hanner nos, wnes i ddeffro. Ôn i’n clywed sŵn fel ci, ac ôn i’n teimlo rhywbeth ar ‘y ngwely. Wnes i roi ‘yn llaw ar y peth.Ôn i’n gallu teimlo blew byr a phigog. “Dad” wnes i ddeud “ Rhowch y fflach ymlaen. Mae gen i gi yma – y ci drws nesa” Ond na! Pen ‘y mrawd oedd o – ac roedd o’n chwyrnu fel ci. Dw i ‘di cyffwrdd ei wallt –“short back and sides”
Plentyn y wlad….gan Elaine(Mar2008)Weithiau, pan dw i’n eistedd yn dawel ar ben fy hun, dw i’n cofio cipolwg o fy mywyd pan ôn i’n ifanc. Ôn i’n byw mewn hen dŷ efo gardd fawr a chwrt tennis yn y tu blaen a fferm ffatri gig yn y tu ôl. Fedra i weld yn yr ardd rhes o fefus a llwyni gwsberins a choeden gellyg arbennig. Roedd y gellyg yn barod yn ystod gwyliau’r haf ac yn flasus anhygoel (ac mae hyn yn bwysig!) – roedd gan y goeden frigau isel ac ôn i’n gallu dringo i eistedd arno fo a bwyta gellyg drwy’r dydd. Yn anffodus, roedd y cacwn yn hoff iawn o’r gellyg hefyd ond os oeddech chi’n ofalus, roedden nhw’n iawn. Yn y cefn, roedd gan y tŷ fuarth efo tô a drych mawr iawn i fy chwaer a fi ymarfer ein bale. ‘Ndoedden ni’n falch! Ar yr ochr arall i’r drych roedd fy mwrdd nature lle dw i’n casglu plu, cregyn, lindys, mes a phethau fel hyn. Tu allan i’r buarth efo tô roedd ‘na ddwy stabl. Un efo hen geffyl gwaith oedd yn tynnu’r treilor ŷd yn y cynhaeaf ac un arall efo hwch fy mam o’r enw “heffalump”. Roedd gynni hi lawer o foch bach ac ôn i’n dysgu nhw i neidio achos ‘swn i wedi bod wrth fy modd yn ymuno efo’r syrcas. Nesa i hwn, roedd ‘na gytiau moch efo “shute”. Roedd eu bwyd yn dod i lawr hwn. Felly, pan oedden nhw isio bwyd edrychon nhw i fyny fo a sgrechian a sgrechian. Roedd gen i ofn. Yn agos i’r cytiau roedd ‘na ddwy gasgen i ferwi eu bwyd – Tottenham Pudding roedden nhw’n ei alw fo – rhywbeth o’r Ail Ryfel Byd – wedi ei wneud o sbwriel y pobty (bwyd moch diogel) Roedd gynno fo arogl diddorol a dw i’n dal yn cofio fo. Ym mhen pella’r buarth roedd ‘na hen beiriannau amaeth efo sêt haearn ac ôn i’n eistedd ar un sêt neu’r llall ac yn teithio i’r “Lost Planet” fel ar y radio. Tu ôl i’r cwt peiriannau roedd ‘na le rhwng ein buarth a buarth yr adeiladwyr drws nesa. Dw i ddim yn gw’bod pwy oedd bia fo – ac ynddo fo roedd ‘na domen o dywod ac hefyd – lle arbennig i mi – tomen o ddarnau gwydr o bob lliw – rhai efo leins neu swirls a phatrwm arall arnynt. Trysor i mi adeg hynny – ond rwan dw i’n meddwl bod nhw i addurno beddau. Beddau pwy tybed?
Moch, moch ..a mwy o foch!.... gan Joy(Feb2008)Pan ôn i’n ifanc,roedden ni’n byw mewn tŷ semi,eitha bach,efo modurdy bach ar yr ochr. Roedd yr ardd yn gul ond yn hir iawn,efo perllan ym mhen pella’r ardd. Roedd gynnon ni goeden geirios fawr,coeden eirin a choed afalau. Roedden ni’n dringo’r coed yna. Ar ôl yr ail ryfel byd, roedd ‘na gynllun “Llywodraeth” i gadw moch (tua 1950 dw i’n meddwl). Felly rhoddodd ‘y nhad ffens o gwmpas y berllan ac adeiladodd dŷ moch efo teisi gwair. Gyrhaeddodd ddau fochyn bach iawn – mor fach roedden nhw’n gallu dianc trwy’r ffens. Ôn i wedi cael tipyn bach o fraw – a deud y gwir – ond rhedes i ar ôl y moch a dod â nhw adre. Roedd ‘yn mam yn coginio bwyd moch yn y gegin – dw i’n cofio’r arogl. Weithiau, roedd y moch ym dianc a cherddon nhw ar hyd y llwybr gardd a chrafon nhw ar y drws cefn – i ofyn i mam am eu cinio. Dyfodd y moch ond un diwrnod,ddiflanon nhw. Wedyn gaethon ni bedwar mochyn arall. Roedd un o’r moch o’r enw Priscilla, yn sâl – mor fach ac yn wan. Mi gaeth hi ei chadw yn y modurdy i’w chadw yn boeth,lle fwydon ni Priscilla druan efo llwy grefi. Doedd hi ddim yn gwella. Gaethon ni ddau fochyn arall – wedyn dim mwy. Efallai achos orffenodd y cynllun – neu efallai achos symudodd y teulu yn 1954. Ond, pan aeth y moch (i’r lladd dŷ) dderbynon ni ochr bacwn. Wnaeth o hongian yn y pantri wrth yr wyau wedi eu cadw mewn “Isinglass”. Yn 2004,pan symudes i yma,ôn i isio cadw moch.“Na” meddai ‘y nhad “Maen nhw’n gwenu arnat ti. Mi fasai hi’n anodd i ti eu bwyta nhw. Felly,mae’n wir – wnes i ddim trio
Eisteddfod ysgol-a phethau eraill ....gan Geoff(Feb 2008) Pan ôn i’n ifanc,ôn i’n ddisgybl yn ysgol gynradd Yr Hob. Roedd hyn amser maith yn ôl ond dw i’n cofio’n iawn ein parti cynta yn yr ysgol. Roedd yr ystafell ddosbarth yn boeth iawn ac ôn i’n bwyta jeli gwyrdd. Yn anffodus wnes i chwydu ar y llawr! Wnes i ddim bwyta jeli gwyrdd am flynyddoedd wedi hynny! Wnaeth prifathro newydd gyrraedd yr ysgol yn ystod ‘y mlwyddyn ola. Cymro Cymraeg oedd o a wnaethon ni ddysgu cerdd Gymraeg a chân Gymraeg. Ein profiad cynta efo’r iaith Gymraeg oedd o! Roedd y gerdd o’r enw “Briallu” gan Eifion Wynne. Dw i’m yn cofio enw’r gân rwan ond dw i’n cofio trio ei chanu hi yn yr Eisteddfod ysgol! O diar – roedd ‘na fi yn sefyll ar ben ‘yn hun ar y llwyfan. Ôn i’n nerfus iawn achos roedd hi’n gystadleuaeth ganu. Wnes i ddechrau canu a wnaeth y barnwyr bwyso ymlaen yn edrych yn ddifrifol iawn arna i. Dw i’m yn cofio gwirfoddoli neu be ôn i’n canu. Ar y diwedd wnaethon nhw wobrwyo fi – rhuban arian efo pin aur a wnaeth o ei roi ar fy jersi. “Ail wobr” medden nhw! Roedd ‘yn ffrind yn eistedd yn agos i’r llwyfan yn y pedwerydd rhes dw i’n meddwl. “Fedrwn ni ddim dy glywed di o gwbl” meddai fo! Naill ai roedd y barnwyr yn garedig iawn neu roedd ‘na ddau o blant yn unig yn y gystadleuaeth. Pwy a ŵyr? Y flwyddyn wedyn yn yr ysgol uwchradd,wnaeth ein athrawes Gymraeg ofyn i mi os gallwn i adrodd cerdd o’r ysgol diwetha. Wnes i adrodd y gerdd “Briallu” ac roedd hi’n falch o glywed hon. “Da iawn ti” meddai hi. “Rhaid i ti adrodd y gerdd ‘na eto yn neuadd yr ysgol os dan ni’n cael eisteddfod. Wnaeth un o’r plant (roedd hi’n Gymraes) ddeud wrtha i yn nes ymlaen “ Ti’n gw’bod be mae’r gerdd yn ddeud yn Saesneg?” “Nac ydw” meddai fi. “ Am fairies a flowers mae hi’n sôn” meddai hi. “Cerdd syml i blant ifanc” meddai hi. Ges i sioc! Wnes i ddim adrodd “Briallu” eto!
Atgofion plentyn....Joy(Jan2008) Pan ôn i’n ifanc…ôn i’n hoffi chwarae yn y coed ffaw (a chlychau’r gôg yn y gwanwyn) efo fy ffrindiau. Doedd y coed ddim yn bell o’r tŷ, ond roedden ni mewn byd arall. Roedden ni’n gwneud tai, roedden ni’n chwarae mig. Roedden ni’n pigo blodau gwyllt…roedden ni’n aros yna trwy’r dydd,yn mynd adre pan roedden ni isio bwyd.Roedden ni’n teimlo’n ddiogel nes un diwrnod,roedd ‘na ffens fawr ar draws y coed,ar draws ein lle chwarae! Roedden ni’n dychmygu llawer o bethau.Be sy wedi digwydd?Wnaethon ni gloddio twll o dan y ffens,a wnaethon ni gropian i mewn.Unwaith ,dwywaith,tairgwaith…Roedden ni’n teimlo’n ddewr.Roedden ni mewn carchar,mewn lle gwaharddedig.Roedd y coed yn edrych yn union yr un peth. Un diwrnod roedd rhaid i ni redeg allan yn gyflym iawn pan wnaeth dyn ein gweld. Roedd o’n warchodwr drwg! Bryd hynny,roedden ni wedi dychryn, a doedden ni ddim am fynd yna eto. (Doedden ni ddim yn gw’bod bod ‘na fynwent newydd ar y pen arall i’r coed
Atgofion....gan Geoff(Jan2008) Pan ôn i’n ifanc,ôn i’n byw mewn pentre o’r enw Caergwrle. Ôn i’n blentyn swil iawn.Os ôn i’n gw’bod bod ni’n cael ffrindiau fy rhieni neu berthnasau i’r tŷ ‘swn i’n dringo’r hen dderwen yn gyflym iawn cyn iddyn nhw gyrraedd.Roedd rhai o’r ymwelwyr isio rhoi sws i mi dach chi’n gweld – ych a fi! Weithiau ‘swn i’n eistedd yn y tŷ gwydr yn darllen ‘y nghomics – o’r enw Wizard,Adventure,Rover Hotspur. Mi faswn i’n chwarae Criced,Billiards,Snwcer,a Pel Droed efo fy mrawd a’n ffrindiau a weithiau fasen ni’n taflu afalau sur at ein gilydd. Unwaith, dw i’n cofio bod ni’n mynd efo grŵp o’r pentre i fyny mynydd yr Hob. Roedden ni wedi gwisgo fel Arabiaid! Dw i’m yn cofio pam! Beth bynnag, wnaethon ni gyrraedd copa’r mynydd wrth y cerrig a wnaethon ni edrych i lawr ar y pentre isod yn codi llaw mewn gorfoledd. Dyna ryfedd! Fallai mai breuddwyd oedd o! Dw i’n dal i freuddwydio yn anffodus pan ddylwn i ganolbwyntio
Atgofion fy mhlentyndod….gan Caroline(Jan2008) Pan ôn i’n ifanc, ôn i’n byw mewn hen dŷ yn Llundain. Dôn i ddim yn hoffi mynd i’r ysgol achos ôn i’n methu fy nghartre i.Roedd ein cymdogion yn gerddorion ac roedd hi’n hyfryd clywed sŵn y ffliwt a’r delyncord/harpsichord trwy’r dydd. Roedd eu merch yn ffrind gorau i mi gyda llaw. Roedd gen i frawd hŷn o’r enw Julian sy’n gallu gwneud popeth yn well na fi – dringo coed,chwarae chess,- popeth. Ôn i’n meddwl fy mod i’n dwp! Roedd gynnon ni ardd fawr a gwellt. Un diwrnod, wnaeth Julian dwll dwfn i lawr yr ardd, wedyn wnaeth o roi tô arno fo a roedd ‘na simne hefyd a drws bach yn y wal. Roedd ‘na ddigon o le i ni i mewn. Goginiodd Julian datws ar y tân. Roedden ni’n hapus iawn ac roedd y tatws poeth mor flasus! O, roedd bywyd yn fendigedig pan ôn i’n ifanc.
Plant y rheilffordd….gan Eirwen.(Jan2008) Mi ôn i’n byw yn Hooton pan ôn i’n ifanc, mewn tŷ y Rheilffordd achos roedd fy nhad yn gweithio fel gard ar y trên. Pan roedd o’n pasio ein tŷ ni ar y trên, Roedd fy chwaer fy mrawd a fi yn codi llaw ar Dad,a mi fasai fo’n codi llaw yn ôl arnon ni. Roedd gan fy nhad faner goch a gwyrdd mewn bag achos roedd rhaid iddo fo ddeud wrth y gyrrwr pryd i gychwyn a stopio. Doedd ‘na ddim ysgol na bws yn ein pentre ni, felly roedd rhaid i ni gerdded i’r pentre nesa (dwy filltir a hanner) Achos roedden ni mewn rhyfel rhwng Yr Almaen a Phrydain, roedden ni’n edrych am ddyn efo pen fflat achos roedd rhywun wedi deud wrthyn ni bod gan ysbiwyr Almaeneg bennau fflat!!! Wnaethon ni ddim gweld ysbiwyr o gwbl. Ambell waith roedden ni’n gweld awyren Almaenig oedd yn mynd yn ôl i’r Almaen ar ôl gollwng bomiau rhywle yn Lloegr.
Ysgol breswyl yn ystod y rhyfel….gan Heather(Jan2008) Mi ôn i’n chwech oed pan benderfynodd Mam fy anfon i i ysgol breswyl yn Lerpwl. 1943 oedd y flwyddyn - yng nghanol yr Ail Ryfel byd wrth gwrs - a dyma’r flwyddyn gaeth fy nhad ei gymryd yn garcharor gan y Japaneaid. Roedd rhaid i Mam gael gwaith, ac roedd y gwaith yn ei chymryd hi o gwmpas y wlad. Roedd hi’n dod i ymweld â fi ar benwythnosau weithiau. Yn ystod y gwyliau, mi ôn i’n aros efo fy modryb a chefndryd yn Llundain. Roedd yr ysgol wrth lan y môr. Ar ôl ein gwersi roedd yr athrawes yn mynd i gerdded efo ni ar y traeth. Un pnawn yn yr ysgol, daeth dyn o’r Cyngor( heddiw mi fasech chi’n ei alw fo’n Swyddog Iechyd a Diogelwch) i siarad efo ni am beryglon codi rhywbeth anarferol – rhag ofn iddo fo fod yn beryglus. Mae o’n gallu ffrwydro! Roedd pethau fel hyn yn aml yn cuddio yn y tywod. “Byddwch yn ofalus” meddai fo. Roedd merch arall chwech oed wedi dod i’r ysgol hefyd ac roedd hi wedi cynhyrfu a dechreuodd hi grio.Wedyn,cipiodd hi fy nol tsieni a’i thaflu hi i fyny i’r nenfwd! Chwalodd hi’n deilchion ar y llawr! Fy nol annwyl! Roedd fy myd i wedi chwalu’n deilchion hefyd.
Pan on i’n ifanc… gan Joy(Jan2008)
Weithiau wnes i fynd at fy nhaid a nain ar ben
fy hun, neu efo fy mrawd John. On i’n bump oed neu chwech.
Pan on i’n ifanc… gan Peg(Jan2008)
Pan on i’n ifanc, on i’n ddisgybl mewn ysgol cwfaint. Roedd hi’n ysgol
gynradd. Roedd ‘na tua pum deg o ddisgyblion yn y dosbarth. Lleian oedd yr
athrawes. Hen dro! .... gan Peg(Jan2008) Pan ôn i’n ifanc (tua saith oed) dwedodd Mam “Ty’d ymlaen!Dan ni’n mynd i weld Anti Rose pnawn ‘ma am baned o de a darn o gacen!” Roeddwn i’n hapus iawn achos dw i’n hoffi Anti Rose. Roedd hi’n nyrs yn yr ysbyty leol (dw i ddim yn hoffi ysbytai) Pan gyrhaeddon ni,roedd Anti Rose yn barod amdanon ni ond dwedodd “Ty’d ymlaen Peg. Rhaid i mi dy gymryd di i’r ward” O! Dw i ddim yn hoffi sŵn hynny. Pam bod rhaid i mi fynd i’r ward?Mae’n rhy gynnar i fynd i’r gwely a beth bynnag dw i ddim yn sâl. Dw i isio mynd adre! Lle mae Mam? Dw i wedi cael braw. Mi ôn i’n crio am Mam. Yn y pendraw rhoddodd Anti Rose fi i’r gwely. Drannoeth ges i lawdriniaeth gan y meddyg. Ges i dynnu fy nhonsils Roedd gen i ddolur gwddw mawr wedyn. Beth bynnag,ar ôl ychydig o amser daethon nhw â hufen iâ i mi. Dw i’n ddiolchgar iawn erbyn hyn wir ond ôn teimlo’n flin efo Mam ar y tro!
Pan on i’n ifanc….gan Elaine(Jan2008) Amser maith yn ol, ges i ‘y ngeni mewn hen fwthyn yng nghanol Bwlch yr Oernant a ges i ‘yn magu ar fferm yng nghyffiniau Wrecsam tan on i’n saith mlwydd oed pan symudodd fy nheulu i’r Cymau dim ond chwe milltir o Wrecsam ond oedd yn wahanol iawn. Oedden ni’n symud o dy mawr i fwthyn bach uwch ben y pentre,ym mhen pella’r lon. Oedd fy mam i’n cadw moch ar y mynydd, fy nhad yn gweithio yn y dre ac ar y bwthyn, fy chwaer i’n reidio ceffylau efo’i ffrindiau a finnau? On i’n crwydro’r mynydd i gasglu blodau gwyllt. Roedd gynnon ni lawer o anifeiliaid – gwartheg, moch, ieir,a mwy o lawer o blant yn aros efo ni. Pan oedden ni’n symud yna, aethon ni, yn y dechrau, gyda ein pethau hynaf a roedd y bobl yn meddwl oedden ni’n sipswn. Dw i’n cofio un diwrnod Nadolig pan aeth yr holl deulu, heb fi, i fyny’r mynydd i edrych ar ol un hwch oedd yn cael babanod yn yr eira ofnadwy. Treulies i’r ‘Dolig ar ben fy hun. Ac un diwrnod arall pan fwytaodd yr hwch yr holl deisen hufen o’r gegin pan roedden ni allan. Ar y cyfan on i’n hapus iawn tan on i’n un deg tri oed pan aeth fy chwaer i goleg amaethyddiaeth yn yr Alban ac aethon ni i fyw yn Meliden.
Pan ôn i'n ifanc....gan Pete(Jan2008) Ges i fy ngeni yn Wallasey wrth yr Afon Mersey. Ôn i'n byw efo fy Mam a fy
Nhad a fy chwair fach Sue. Dw i ddim yn cofio llawer o bethau am y pum
mlynedd cyntaf.
|
|