Privacy Policy: Disclaimer

Click to go to Home Page.

Members Stories


Chwarae ar Ystad y Faenol....gan Pat 

Ges i fy ngeni a fy magu ym Mangor, Gogledd Cymru. Es i i ysgol o’r enw “Faenol”, ac roedd gen i ffrind gorau yna o’r enw Alys. Roedd Tad Alys yn arddwr ar Ystad Y Faenol. Ôn i’n chwarae efo Alys o gwmpas  coedwig Y Faenol yn ymyl y tŷ mawr. Roedd gan Alys ful bach. Pan ôn i’n saith, wnes i symud tŷ. Es i i Ynys Môn – i Lanfairpwll. Ôn i’n drist iawn i adael Alys. Weles i Alys dim ond dwywaith eto ac wedyn dim o gwbl. Wnaeth hi symud i Brynrefail, Eryri, dw i’n meddwl, ond roedd hyn amser maith yn ôl.


Y ddwy dorth wen – gan Sarah 

Pan ôn i’n ifanc ôn i’n byw yn y pentre mewn tŷ bychan. Roedd gen i ffrind gorau, ei henw hi Nicola. Un diwrnod, amser maith yn ôl, roedden ni’n cerdded i siop y pentre i brynu dwy dorth wen. Wedyn roedden ni’n cerdded adre. Yn sydyn, wnaeth ceffyl rasio redeg o gwmpas i lawr ein stryd. Wnaethon ni weiddi “Helpwch ni!” Yn anffodus wnaeth y ddwy dorth syrthio i mewn i’r pwll!

Adre, wnaeth fy mam weiddi “Dw i’n flin iawn efo ti – ‘Sgynnon ni ddim cinio rwan!” Wnaeth Nicola a fi grio.

Wnes i gael bore ofnadwy!