|
Snippets
of News.
Digwyddiad
yn Llandudno.(arall gan Daphne)
Ôn
i yn Llandudno i gyfarfod Clwb Rotari yn Venu Cymru. Cerddon ni i’r
gwesty ar y ffordd yn
ôl
o’r eglwys bore dydd Sul pan wnaethon ni gyfarfod pedwar dyn ifanc –
un heb ddillad! Roedd ei ffrindiau wedi cymryd ei ddillad. Roedden
nhw wedi bod yn nofio. Roedd hi’n oer ac yn wyntog. Ddudon ni wrth y
ffrindiau “ Rhowch y dillad yn
ôl
iddo fo”. Wnaethon nhw – ond wnaeth y gwynt chwythu ei boxers i
ffwrdd. Rhedodd o ar
ôl
y boxers. Wnaeth o ollwng ei sanau. Wnes i redeg ar hyd y promenade
efo ei sanau o. Gaeth y gŵr
a fi sioc!
Pwy
fasai’n meddwl! (Gan Daphne)
Oct 2008)
Roedden ni ar ynysoedd Scilly pan ddigwyddodd rhywbeth anhygoel.
Aethon ni i westy dydd Sul am ginio. Roedd fy ngŵr
wedi prynu diod i mi ond rhoddodd y gwydr i ferch arall yn lle fi.
Dwedodd hi” Dim diolch, dw i’n gallu prynu diod fy hun!” Wedyn
sylweddolodd Charles mai dim fi oedd hi! Nes ymlaen, daeth hi i
sgwrsio aton ni efo’i ffrindiau. Darganfyddon ni ein bod ni yn yr
ysgol ramadeg ym Mirmingham efo’n gilydd.
Ôn
i’n brif ferch. Doedd hi ddim yn hoffi’r ysgol. Roedd hi’n hapus
gadael meddai hi!
|