|
Rhyfedd
Ond Gwir!
Have you got a story that
is strange but true, do you worry about telling it
for fear of being laughed
at. If you have and you would like to share it anonymously
Send it to Myfi and we
will put it on this web page.....
Rhyfedd …..ond gwir!
Mi ddeffron ni
yn sydyn. Roedd hi’n ddau o’r gloch y bore!
“Ti’n clywed
hwnna”? ddudes i
“Ydw”, atebodd
fy ngŵr.
Roedden ni’n
gwrando ar sŵn ofnadwy. Oedd ‘na rywun efo dril? Mi godon ni. Roedd
y sŵn yn dod o’r stafell gawod. Roedd ‘na rywun yn drilio trwy’r wal.
Allan aeth fy
ngŵr yn gwisgo gŵn llofft. Dewr iawn, ie? Sefes i yn y ‘stafell
gawod. Roedd y sŵn yn dod o’r drych – na – o’r silff o dan y drych.
Ar y silff, roedd y brws dannedd trydan wedi ei dorri (feddyliodd fy
ngŵr). Roedd o’n mynd, roedd y silff yn crynu, ac roedd yn swnio fel
dril mawr. Dôn i ddim yn gallu troi’r brws i ffwrdd, felly wnes i
lapio fo mewn tywel, rhoi fo mewn bocs, gorchuddio efo tywel arall –
wedyn wnes i gau’r drws a ddychweles i yn ôl i’r gwely.
Yn y bore, ar
ôl brecwast, wnes i godi’r brws. Roedd o’n dal i fynd!
|